Ymddiriedolwyr a Staff
Y Pwyllgor Rheoli ymddiriedolwyr/cyfarwyddwyr (Y Pwyllgor Rheoli) sydd â’r cyfrifoldeb terfynol am reoli Eiriolaeth Eich Llais.
Carl West
Trysorydd
Mae gan Carl brofiad gwych ym myd cyllid ac ar hyn o bryd mae’n gweithio i’r cwmni cyfrifyddu Gordon Down yn Abertawe.
Barbara Jacobs
Ymddiriedolwraig
Am nifer o flynyddoedd roedd Barbara’n Swyddog Cymorth Gofalwyr ac wedyn yn Gynghorydd Hawliau Lles.Ers ymddeol, mae Barbara wedi gwirfoddoli gyda Shelter Cymru a Chanolfan Cyngor ar Bopeth Abertawe ac ar hyn o bryd mae’n gwirfoddoli gyda Face It, clwb ar gyfer pobl ag anabledd dysgu.
Mike Cohen
Ymddiriedolwr
Hyd nes iddo ymddeol roedd Mike yn darlithio mewn Athroniaeth, yn gyntaf ym mhrifysgol Bangor ac yna yn Abertawe. Roedd Mike yn aelod o bwyllgor y Gymdeithas Athrawon Prifysgol ac yn gydsylfaenydd y Cyngor Rhyddid Academaidd a Safonau Academaidd, yn cydawduro llyfrynnau ac yn cyfrannu erthyglau at gyfnodolion ar y pynciau hyn.
Eugenie Jenkins
Ymddiriedolwraig
Trodd Eugenie i ffwrdd o yrfa mewn gweinyddiaeth i ailhyfforddi ym maes Meddygaeth Amgen, gan sefydlu ei busnes ei hun ac addysgu therapïau i eraill. Bellach wedi ymddeol, mae Eugenie yn parhau i ymarfer fel gwirfoddolwraig gyda SCVS Involve, gan weithio gydag oedolion sydd ag anabledd dysgu. .
Rick Wilson
Ymddiriedolwr
Rick yw Prif Weithredwr Consortiwm Bywydau Cymunedol sy’n cefnogi pobl anabl i fyw’r bywydau maent yn eu dewis yng nghymunedau De-orllewin Cymru, gyda’i gymorth mae Consortiwm Bywydau Cymunedol wedi dod yn un o’r sefydliadau cymorth mwyaf a arweinir gan ddefnyddwyr yng Nghymru. Mae’n un o sylfaenwyr Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru sydd â Gradd Meistr mewn Ymchwil i Weithredu ac mae’n weithiwr cymdeithasol cymwys â mwy na 30 mlynedd o brofiad.
Richard Williams
Ymddiriedolwr
Mae Richard yn byw ym Mhenlan, Abertawe ac wedi bod yn weithgar iawn yn y gymuned anableddau dysgu lleol dros nifer o flynyddoedd. Mae hefyd yn dyblu fel Swyddog Aelodaeth YVA gan helpu i gynyddu ein haelodaeth i dros gant yn 2019.
Adelaide Morgan
Trustee
Os hoffech chi gyfrannu at waith Eiriolaeth Eich Llais trwy ddod yn Ymddiriedolwr yna gallwch weld rhagor o wybodaeth trwy fynd i’r dudalen gyswllt a chysylltu â’n Cydlynydd Prosiect.
Staff
Bill Williams
Cydlynydd Prosiect
Sandi Mitchell
Eiriolwraig Cymheiriaid
Marion Lowther
YOLO Gweithwraig Datblygu Cymheiriaid
Alex Hills
YOLO Gweithiwr Datblygu Cymheiriaid
Louise Peck
WGPF Gweithwraig Datblygu Cymheiriaid
Neil Williams
WGPF Gweithiwr Datblygu Cymheiriaid