Select Page

Gofyn am Gymorth

Eich canllaw i Eiriolaeth

Mae eiriolwr yn rhywun sy’n eich helpu i godi llais drosoch eich hun.
Gallant hefyd siarad drosoch os ydych yn ei chael yn anodd gwneud hyn eich hun.

Mae eiriolwr yn eich cefnogi i leisio’ch barn a’ch safbwyntiau.

Beth all Eiriolwr eich helpu ag ef?

Eich cynorthwyo mewn cyfarfodydd ac apwyntiadau. Eich helpu i ddarganfod rhagor o wybodaeth. Siarad â gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr cymorth a gweithwyr proffesiynol eraill ar eich rhan. Eich helpu i siarad am rywbeth nad ydych yn hapus ag ef, er enghraifft –

 

  • Efallai nad ydych yn hapus â lle rydych yn byw
  • Efallai nad ydych yn hapus â sut mae rhywun wedi’ch trin
  • Bydd eiriolwr yn eich helpu i ddatrys y problemau hyn

Preifatrwydd a Chyfrinachedd


Mae cyfrinachedd yn golygu peidio â rhannu gwybodaeth.

Oni bai eich bod am i ni rannu’ch gwybodaeth, byddwn yn ei chadw’n breifat.

Os credwn eich bod chi neu bobl eraill mewn perygl efallai y byddwn yn torri’r rheol hon.

IOs bydd llys yn dweud wrthym am rannu’ch gwybodaeth byddwn yn torri’r rheol hon.

Datganiad Covid

Yn sgîl dyfodiad pandemig Covid 19 a chyflwyniad cyfyngiadau symud a chadw pellter cymdeithasol, roedd rhaid i’r ffordd rydym yn gweithio newid yn ddramatig. Er bod staff yn gweithio gartref er eu diogelwch eu hunain, maent yn dod o hyd i ffyrdd o gadw mewn cysylltiad â’n haelodau mwyaf agored i niwed a sefydliadau eraill sy’n parhau i gynorthwyo oedolion ag anableddau dysgu. Er mwyn diogelu aelodau, bu’n rhaid i ni atal ein holl weithgareddau cymdeithasol dros dro a gohirio cynlluniau ar gyfer rhai prosiectau newydd, ond yn lle hynny rydym wedi dosbarthu taflenni gweithgareddau, cyngor a gwybodaeth. Mae ein prosiect diweddaraf (YOLO Connect) yn cadw aelodau mewn cysylltiad trwy wella eu cysylltiadau Band Eang a rhoi cyfrifiaduron iddynt i gyrchu’r rhyngrwyd. Nid ydym yn credu y bydd pethau’n dychwelyd i fod yn ‘normal’ unrhyw bryd yn fuan ac felly rydym yn dod o hyd i ffyrdd newydd o gynorthwyo pobl a sicrhau eu bod yn dal i gymryd rhan wrth wella amgylchiadau pobl anabl sy’n dysgu.
Bydd ein Gwefan yn parhau i ddarparu’r newyddion a’r cyngor diweddaraf, a bydd yn lle i chi ddweud wrthym am eich profiadau o fyw dan y cyfyngiadau symud.

Gwneud atgyfeiriad

Gallwch wneud atgyfeiriad eich hun trwy ffonio 07534056109 neu 07496189771
neu lenwi ffurflen gais am wasanaeth ar y Wefan hon 

Gall rhywun rydych yn ei adnabod hefyd eich atgyfeirio megis eich gweithiwr cymdeithasol, gweithiwr cymorth, gofalwr, ffrind neu aelod o’r teulu.

NI ALL eich Eiriolwr

  • Ddewis drosoch
  • Cymryd ochr pobl eraill
  • Gweithio gyda chi trwy’r amser.

Eiriolaeth Cymheiriaid

  • Drwy gyfrwng Pobl Gorllewin Morgannwg yn Gyntaf, mae YVA yn hwyluso ‘Eiriolaeth Cymheiriaid’ yn annibynnol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yn ardal Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.
  • Mae Eiriolaeth Cymheiriaid yn ffurf unigryw ac effeithiol ar gymorth grŵp.
  • Bydd unigolion (neu ‘Eiriolwyr Cymheiriaid’) yn defnyddio eu medrau, eu gwybodaeth a’u profiadau eu hunain i helpu pobl eraill a all fod yn mynd trwy brofiadau tebyg yn eu bywydau.
  • Mae Eiriolaeth Cymheiriaid yn grymuso’r unigolyn sy’n rhoi’r cymorth a’r unigolyn sy’n ei dderbyn.
  • Mae ein Swyddog Eiriolaeth Cymheiriaid Sandi Mitchell yn cynnal sesiynau hyfforddi a chymorth sy’n cynnwys pobl o bob rhan o Abertawe a Castell-nedd Port Talbot sy’n bwydo i mewn i grŵp ymgynghori canolog o’r enw ‘Dim Byd Amdanom Ni Heb Ni’
  • Mae ‘DBANHN’ wedi datblygu i fod yn arf pwerus ar gyfer ymgysylltu uniongyrchol i bobl ag anableddau dysgu a menter cydgynhyrchu’r awdurdod lleol.
  • I gael rhagor o wybodaeth am Eiriolaeth Cymheiriaid, cysylltwch â ni ar 07534 056109, e-bost info@yourvoiceadvocacy.org.uk

Wedi’i ariannu gan Sefydliad Dinas a Sir Abertawe a Lloyds tan 31/3/22. 

Gweithgareddau Ar-lein y Gallwch Chi Ymuno â Nhw

  • Grŵp Eiriolaeth: dyddiau Iau
  • Sioe Ffilm – Aml
  • Sgwrsio gydag Ann a Neil – dyddiau Llun
  • Celf a Chrefft – dyddiau Mawrth
  • Bingo – dyddiau Mawrth
  • Bytis Brecinio gyda Cath – dyddiau Mercher
  • Lles Dydd Mercher
  • Caraoce – Dydd Mercher
  • Cwis gyda Phobl yn Gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr – digwyddiad arbennig
  • Gwiriad a Chyfarchion y Tymor (mae gwasanaethau ar-lein yn parhau trwy amseroedd fel y Nadolig pan all pobl fod ar eu mwyaf bregus).

Gwasanaeth Gwrando

Os oes arnoch angen rhywun i siarad â chi – efallai bod rhywbeth yn eich llethu neu os ydych yn teimlo’n unig ac yn ynysig – mae ein Gwirfoddolwyr ar ben arall y ffôn i sgwrsio.  Byddant yn siarad yn unig, neu’n rhoi cyngor ymarferol ar ble i gael rhagor o help os bydd ei angen arnoch.

(Wedi’i ariannu tan 31/3/21 gan y Bwrdd Iechyd lleol)

YOLO Connect

Mae’n bwysicach nac erioed i deimlo’n rhan o gymuned ac ymuno â’n gweithgareddau ar-lein wythnosol a’n digwyddiadau arbennig. Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, ffôn, cyfrifiadur personol neu dabled bydd YOLO Connect yn edrych ar ffyrdd i’ch cysylltu, gan gynnwys cyfarpar am ddim, help â thanysgrifiadau band eang a chyngor ar gadw’n ddiogel ar-lein.

(Wedi’i ariannu tan 31/3/21 gan y Bwrdd Iechyd lleol)